Cynhaliwyd Symposiwm Morwellt 2025 y DU yng Nghaerdydd yr wythnos ddiwethaf, gan ddod â gwyddonwyr, gweithwyr cadwraeth proffesiynol, ymarferwyr, a grwpiau cymunedol ynghyd o bob rhan o’r DU.
Wedi’i gynnal gan Brosiect Morwellt, y digwyddiad oedd y cyntaf yng nghyfres Symposiwm Morwellt y DU (UKSS) i dderbyn cymeradwyaeth fel Gweithgaredd Degawd Cefnfor swyddogol fel rhan o Ddegawd Cefnfor y Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, wrth draddodi’r araith agoriadol:
“Mae adfer cynefinoedd corsydd hallt a morwellt yng Nghymru yn allweddol ar gyfer mynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a byd natur yr ydym yn eu hwynebu. Rwy’n hynod falch o’r hyn mae Rhwydwaith Morwellt Cymru yn ei gyflawni a datblygiad Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol Cymru.”
“Bydd dull Prosiect Morwellt o ganolbwyntio ar y gymuned yn darparu glasbrint ar gyfer gweithredu cenedlaethol, gan gefnogi swyddi gwyrdd cynaliadwy ledled Cymru nawr ac yn y dyfodol.”
Roedd cael Symposiwm Morwellt y DU yng Nghymru yn addas wedi i Lywodraeth Cymru gymeradwyo’r Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i Gymru yn gynharach eleni, yr ymrwymiad cyntaf o’i fath yn fyd-eang.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Techniquest ym Mae Caerdydd, a daeth dros 200 o gynrychiolwyr i arwain trafodaethau a gweithredoedd i amddiffyn ac adfer morwellt y DU.
Dywedodd Dr Leanne Cullen-Unsworth, Prif Weithredwr Prosiect Morwellt a Chadeirydd cyntaf Rhwydwaith Morwellt Cymru:
“Rwyf wrth fy modd o fod wedi dod ag ail Symposiwm Morwellt y DU i Gymru. Mae’r digwyddiad wedi bod yn llwyddiant ysgubol – mae wedi cryfhau’r cydweithio rhwng gwyddonwyr, ymarferwyr, a gwneuthurwyr polisi o bob rhan o’r DU, ac wedi amlygu bod y Cynllun Gweithredu Morwellt Cenedlaethol i Gymru bellach yn darparu glasbrint i wledydd eraill. Ochr yn ochr â chynghrair ryngwladol o ymarferwyr morwellt, rydym yn arwain y ffordd, yn symud o weledigaeth i weithredu, gan adfer dolydd, llywio polisi ac amddiffyn ein treftadaeth forol.”
Mae’r cydweithredu a’r cydweithio a fabwysiadwyd gan Symposiwm Morwellt y DU yn allweddol i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu morwellt y DU ar hyn o bryd.
Noddwyd y Symposiwm gan Llywodraeth Cymru, Ystâd y Goron, Grid Cenedlaethol y DU,, ACT Sustainably, Rhwydweithiau Trydan yr Alban a’r De, Blue Robotics, a Frontiers.
Cefnogwyr
Y digwyddiad oedd y cyntaf yng nghyfres Symposiwm Morwellt y DU (UKSS) i dderbyn cymeradwyaeth fel Gweithgaredd Degawd Cefnfor swyddogol fel rhan o Ddegawd Cefnfor y Cenhedloedd Unedig.
